Deuawd ffliwt ar gyfer unrhyw achlysur
Amdanom ni...
Deuawd ffliwt deinamig yw Dwy, sy’n cynnwys y ddwy chwaer Enlli a Lleucu.
Mae’r ddeuawd yn arbenigo mewn amrywiaeth eang o arddulliau, o’r clasurol i’r gwerin ac o gerddoriaeth bop i sioeau cerdd, gan greu’r awyrgylch sydd fwyaf addas at ddiben a naws yr achlysur.
Yn gyfeillgar a phroffesiynol, nod y chwiorydd yw darparu profiad pleserus gan ddod â phrofiad cerddorol unigryw i unrhyw ddigwyddiad.
Mae gan Dwy brofiad helaeth o drefnu cerddoriaeth eu hunain, gyda diddordeb arbennig mewn electroneg. Maent yn trefnu ar gyfer y ffliwt, ffliwt alto a picolo, ac mae eu cydweithrediadau arloesol yn rhoi sain unigryw a ffres a fydd yn sicr o roi mwynhad.
Enlli
Graddiodd Enlli gyda gradd BMus anrhydedd dosbarth cyntaf o’r Guildhall School of Music and Drama gyda Diploma Datganiad Cyngerdd am berfformiad rhagorol yn ei datganiad terfynol cyn dychwelyd i ennill gradd meistr MPerf gyda Rhagoriaeth yn 2020. Ar ôl graddio bu Enlli’n gweithio fel cerddor llawrydd gan chwarae gyda nifer o wahanol gerddorfeydd a oedd yn cynnwys Cerddorfa’r TÅ· Opera Brenhinol, Cerddorfa Opera North, Cerddorfa Siambr Cymru a’r Sinfonietta Prydeinig. Yn ddiweddar cafodd ei phenodi i sedd yr ail ffliwt gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
​Mae Enlli yn gyn-enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel, ac mae’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae wedi’i derbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Ymddiriedolaeth Gerddorol The Countess of Munster, Cronfa Goffa Ryan Davies, Ymddiriedolaeth Goffa Craxton, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac Ymddiriedolaeth Split Infinitive.
Lleucu
Graddiodd Lleucu gyda MMus mewn Perfformio ar y Ffliwt o Goleg Brenhinol
Cerdd a Drama Cymru, gan astudio gyda John Hall, Sarah Bennington, Roger
Armstrong a Sarah Newbold. Tra’n astudio ar gyfer ei gradd meistr dechreuodd
Lleucu ymddiddordi’n fawr yn sut yr oedd ei hofferyn yn gweithio. Erbyn hyn mae
Lleucu wedi hyfforddi fel atgyweiriwr yn y Trevor Head Brass and Woodwind
Instrument Repair School, a mae hi hefyd wedi cael hyfforddiant un-i-un gyda’r
technegydd chwythbrennau arbenigol Daniel Bangam yn Cambridge Woodwind
Makers. Mae Lleucu bellach yn arbenigo mewn atgyweirio Ffliwtiau, Clarinetau a Sacsoffonau tra hefyd yn perfformio ac yn dysgu’r ffliwt.
Fel perfformiwr mae Lleucu wedi teithio Cymru gydag OPRA Cymru ac wedi
perfformio gyda nifer o ensembles gan gynnwys Opera Caerdydd, Cerddorfa
Gyngerdd Caerdydd, Cerddorfa Symffoni Ignite a Cherddorfa Fulltone. Tra yn
CBCDC cyrhaeddodd Lleucu rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith
Cymru a chystadleuaeth Rhuban Glas Offerynnol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae
hi wedi cael ei chefnogi gan Sefydliad James Pantyfedwen, Cronfa Fenter SWEF,
Gwobr Gerddoriaeth Leonard a Marian Jones, Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ac Ymddiriedolaeth Split Infinitive, ac mae’n ddiolchgar iawn iddynt am eu gefnogaeth.